Movie Reviews
Y Sŵn ★★★★
Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu ffilm eco-arswyd, Gwledd mae Lee Haven Jones a Roger Williams yn ôl gyda ffilm amserol ac uchelgeisiol sy’n siŵr o ddenu cynulleidfa newydd. Mae’n amlwg fod nod penodol i’w ffilmiau, un sydd yn edrych ar rhoi cynulleidfa eang i’r iaith – nod y fyddai arwr eu ffilm dyweddaraf, Y Sŵn wedi cymeradwyo.
Stori ffuglen yw Y Sŵn ond mae’n seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol a oedd yn hanfodol yn yr ymgyrch i sefydlu sianel deledu Gymraeg, sianel sydd bellach wedi rhoi llais a llwyfan i’r iaith ers dros ddeugain mlynedd. Y tu ôl i lwyddiant yr ymgyrch hon roedd un o ffigurau gwleidyddol mwyaf eiconig a dylanwadol Cymru. Ffigwr a oedd yn barod i aberthu ei fywyd dros yr achos. Gwynfor Evans oedd y dyn hwn wrth gwrs. 1979, ac mae’r Cymry newydd bleidleisio yn erbyn datganoli pwerau i Gymru. Mae’r Torïaid mewn grym, a Margaret Thatcher sydd yn eu harwain.
Dros ddilyniant o luniau a chlipiau archif o’r cyfnod, clywn lais Ceri Samuel (Lily Beau Conway) – gweithiwr o’r swyddfa Gymreig – sy’n cynnig ychydig o gyd-destun i gyfnod sy’n llawn newid gwleidyddol, a diwyllianol. Daw hyn â ni at y fframiau agoriadol, sy’n ein gosod yng nghanol yr helynt sydd ar fin dechrau.
Daw’n amlwg fod y Torïaid wedi gwneud tro pedol ar addewid a wnaethpwyd yn yr etholiad flaenorol; addewid a fyddai wedi galluogi Cymru i sefydlu sianel deledu Gymraeg. William Whitelaw (Mark Lewis Jones) a Nicholas Edwards (Rhodri Meilir) yw’r dihirod sy’n chwarae gyda dydfodol y wlad, yn Whitehall. Mewn dilyniant arddulliadol o olygfeydd – Tarantinoesque – gwelwn sut y daeth Whitelaw i’r penderfyniad dadleuol, di-asgwrn-cefn ac annemocrataidd hwn- bydd eich gwaed yn berwi.
Wrth i’r newyddion ledu, mae yna drafod dwys yn y Swyddfa Gymreig ynglŷn â sut y bydd Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn ymateb i’r sefyllfa. Mae ysgrifennydd seneddol y swyddfa Gymreig, Wyn Roberts (Arwel Gruffydd) yn mynd at Whitelaw i’w rybuddio am y protestiadau a ddaw; rybudd y mae Whitelaw yn gwrthod cydnabod “bydd y cenedlaetholwyr yn rhy brysur yn llyfu eu clwyfau yn dilyn colli’r ddadl ar ddatganoli”. Mae Whitelaw, wrth gwrs, yn ffôl i feddwl hyn.
Drwy ddefnydd o luniau archif, freezeframes a cherddoriaeth fel Rule Britannia, mae’r cyfarwyddwr, Lee Haven Jones yn llwyddo i gyfleu ymateb gwrthryfelgar a phync sy’n driw i’r protestiadau ffyrnig ac angerddol a ddigwyddodd yn sgil tro pedol y llywodraeth. Mae yna hyder i’r ffilm hon sy’n barod i chwarae ac arbrofi gyda gwahanol arddulliau, ond sy’n glynu at strwythur naratif draddodiadol drama-gyfnod.
Dafydd Wigley (Dyfan Dwyfor), Dafydd Elis Thomas (Sion Eifion), Gwynfor Evans (Rhodri Evan) a gweddill Plaid Cymru sydd gyda’r cyntaf i sefyll yn erbyn y newid sydyn i faniffesto’r Torïaid.
Wedi i Gwynfor Evans golli ei sedd fel aelod seneddol Sir Gaerfyrddin, mae’n mynd trwy gyfnod o hunanfyfyrio. Gwelwn ef mewn sawl golygfa yn gwneud cysylltiad ysbrydol â ffigyrau gwleidyddol fel Gandhi a Martin Luther King; ac o’u dylanwad a’u doethineb fe ddaw i benderfyniad nodedig, un a fydd yn drobwynt yn yr ymgyrch i sefydlu sianel Gymraeg i Gymru: mae Gwynfor yn bygwth ymprydio nes i’r llywodraeth ildio; dull y bu’n rhaid i’r cyfarwyddwr Iranaidd, Jafar Panahi (No Bears, Hit the Road) – sydd wedi’i garcharu ar gam – droi ato’n ddiweddar er mwyn protestio’n erbyn yr awdurdodau yn Iran.
Yma cawn wir deimlad o’r math o gymeriad oedd Gwynfor Evans; llwydda Rhodri Evan i gyfleu cymeriad penderfynol, angerddol, meddylgar a di-ildio sy’n barod i aberthu ei fywyd dros yr iaith a’i wlad. Ei wraig Rhiannon Evans (Eiry Thomas) yw’r glud a’r cryfder sy’n ei alluogi i fynd i’r fath eithafion. Mae yna dynerwch a chariad amlwg i’w perthynas, sy’n pwysleisio pa mor ddifrifol y cymerodd ei benderfyniad i ymprydio.
Mae stori ysbrydoledig Gwynfor Evans yn sefyll allan yn Y Sŵn heb os, ond persbectif eang gweithwyr y Swyddfa Gymreig, y gwleidyddion a’r cenedlaetholwyr sy’n cynnig ongl wahanol i’r stori, un sy’n rhoi syniad o feddylfryd a dylanwad y rhai fu’n gweithio tu ôl i’r llen ar y pryd.
Does dim angen i mi ddisgrifio sut y daw’r stori i ben, a’r penderfyniadau a ddaeth o ganlyniad i’r protestiadau a’r brwydro. Mae Y Sŵn yn dod â neges amserol a phwysig i’n sgriniau eleni. Mewn cyfnod lle mae ansicrwydd ynghylch dyfodol y celfyddydau, ein sianel a’r iaith, mae’n bwysig inni gofio’r unigolion a frwydrodd dros ddyfodol yr iaith a’n hunaniaeth. Mae’n bwysig ein bod ni’n cymryd cyfrifoldeb dros yr iaith, y sianel a’r pethau yr ydym, o bryd i’w gilydd, yn ei chymryd yn ganiataol.
-
News4 weeks ago
Cardiff’s Iris Prize Launches Full 2024 Programme
-
News4 weeks ago
(BAFF) Birmingham Anime Film Festival Returning To City This Autumn
-
Interviews3 weeks ago
Interview With Director/Actress Theda Hammel (Stress Positions)
-
Featured Review4 weeks ago
Humanist Vampire Seeking Consenting Suicidal Person ★★★★
-
Featured Review3 weeks ago
Lee ★★★
-
Movie Reviews3 weeks ago
The Goldman Case ★★★★
-
Featured Review3 weeks ago
Speak No Evil (2024) ★★★★
-
Movie Reviews3 weeks ago
The Queen Of My Dreams ★★★★